Online groups and interviews
...i gymryd rhan mewn ymchwil.
Diolch am roi’r amser i gwblhau’r arolwg hwn.
Rydym wedi eich gwahodd i gwblhau’r arolwg sgrinio byr hwn cyn trefnu cyfweliad ar gyfer yr ymchwil hwn. Mae hyn oherwydd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am sicrhau eu bod yn siarad ag ystod eang o ddeiliaid grantiau fel rhan o’r ymchwil hwn.
Pwrpas yr ymchwil yw cael eich adborth chi ar Strategaeth Effaith newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut mae’r Gronfa yn bwriadu gweithio gyda chymunedau i ddefnyddio tystiolaeth i greu newid cadarnhaol ac arddangos effaith ar y cyd. Byddai’r Gronfa hefyd yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau am sut allen nhw eich cefnogi orau pan weithredir y strategaeth. Bydd yr adborth rydych chi’n ei roi yn cael ei ddefnyddio i adolygu’r strategaeth cyn ei chyhoeddi yn 2025.
Hoffem eich sicrhau fod hwn yn ddarn dilys o ymchwil marchnad sy’n cael ei gwblhau ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd eich atebion i’r arolwg hwn yn aros yn gwbl gyfrinachol a dienw ac ond ar gael i Take Part in Research a Blue Marble Research, sy’n gwneud yr ymchwil hwn ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dylai’r arolwg gymryd oddeutu 5 munud a ddim mwy na 10 munud i’w gwblhau, ond ewch ar eich cyflymder eich hunan.
Cyfeiriwch at y daflen Gwybodaeth a Diogelwch Data am fanylion llawn yr ymchwil a gwybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio; mae dolen iddi yn y gwahoddiad e-bost.
Noder, bydd rhai o gwestiynau’r arolwg yn gofyn i chi gadarnhau manylion am eich prosiect/grant a’ch sefydliad. Diolch ymlaen llaw am gadarnhau’r wybodaeth hon.
Not what you’re looking for? Browse our other projects